2016 Rhif 59 (Cy. 29)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (“Gorchymyn 2012”).

Y prif newidiadau yw’r canlynol—

—   Mae erthygl 4 yn mewnosod Rhan 1A (ymgynghori cyn ymgeisio) ac yn gwneud diwygiad canlyniadol yn erthygl 22 o Orchymyn 2012 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau).

—   Mae erthygl 5 yn amnewid Atodlen 4 i Orchymyn 2012 (ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd cynllunio).

—   Mae erthyglau 6 a 7 yn gwneud diwygiadau i erthyglau 15A a 15B o Orchymyn 2012 (dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad).

—   Mae erthygl 8 yn mewnosod erthyglau 15C i 15F yng Ngorchymyn 2012, sy’n ymwneud ag ymgynghori ar geisiadau sy’n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio, megis ceisiadau am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl neu gydsyniadau gofynnol eraill.

—   Mae erthygl 9 yn amnewid erthygl 7 o Orchymyn 2012 (datganiadau dylunio a mynediad).

—   Mae erthygl 10 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag ymgynghori ynghylch ceisiadau i ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd ar ganiatâd blaenorol.

—   Mae erthygl 11 yn diwygio erthygl 22 o Orchymyn 2012 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer diwygio ar ôl cyflwyno.

—   Mae erthygl 12 yn mewnosod erthygl 24A yng Ngorchymyn 2012 er mwyn ymdrin â hysbysiadau penderfynu. Mae erthygl 12 hefyd yn mewnosod erthygl 24B yng Ngorchymyn 2012, i ddarparu ar gyfer rhoi hysbysiad i awdurdod cynllunio lleol cyn dechrau datblygiad mawr ac arddangos hysbysiad tra cyflawnir datblygiad mawr.

—   Mae erthygl 13 yn diwygio Gorchymyn 2012 i wneud darpariaeth ar gyfer apelau yn erbyn penderfyniad gan awdurdod cynllunio lleol fod cais yn annilys.

—   Mae erthygl 14 yn diwygio erthygl 27 o Orchymyn 2012 er mwyn caniatáu i orchmynion datblygu lleol roi caniatâd ar gyfer datblygiad sy’n ddatblygiad Atodlen 2 at ddibenion Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016.

Mae asesiad effaith wedi ei baratoi mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Mae copïau ohono ar gael gan Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.

 


2016 Rhif 59 (Cy. 29)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed                                27 Ionawr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad

Cymru                                1 Chwefrorr 2016

Yn dod i rym                        16 Mawrth 2016

CYNNWYS

1.       Enwi, cychwyn a chymhwyso

2.       Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

3.       Diwygiadau mewn perthynas â dehongli

4.       Diwygiadau mewn perthynas ag ymgynghori cyn ymgeisio

5.       Diwygiadau mewn perthynas ag ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd

6.       Diwygiadau mewn perthynas â dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad

7.       Diwygiadau mewn perthynas â dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad: adroddiadau blynyddol  

8.       Diwygiadau mewn perthynas ag ymgynghori ynghylch ceisiadau penodol

9.       Diwygiadau mewn perthynas â datganiadau dylunio a mynediad

10.     Diwygiadau mewn perthynas â cheisiadau adran 73

11.     Diwygiadau mewn perthynas ag erthygl 22 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau): diwygiadau ar ôl cyflwyno

12.     Diwygiadau mewn perthynas â hysbysiadau penderfynu, hysbysu ynghylch cychwyn datblygiad ac arddangos hysbysiad

13.     Diwygiadau mewn perthynas â dilysu

14.     Diwygiadau mewn perthynas â gorchmynion datblygu lleol

15.     Darpariaethau trosiannol

 

ATODLEN 1  — Hysbysiadau cyn-ymgeisio

 

ATODLEN 2  — Ymgynghori cyn rhoi caniatâd

 

ATODLEN 3  — Hysbysu ynghylch cychwyn datblygiad ac arddangos hysbysiad

 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 61Z, 62ZA, 62ZB, 71ZA, 71ZB, 100A a 333(4B) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990([1]), a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 61A, 62, 65, 71 a 74 o’r Ddeddf honno([2]) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([3]), a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 54 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004([4]) ac sydd hefyd bellach yn arferadwy ganddynt
hwy([5]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016.

(2) Daw i rym ar 16 Mawrth 2016.

(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i’r holl dir yng Nghymru.

Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

2. Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012([6]) wedi ei ddiwygio yn unol â’r darpariaethau canlynol.

Diwygiadau mewn perthynas â dehongli

3. Yn erthygl 2(1) yn y mannau priodol mewnosoder—

“ystyr “cais adran 73” (“section 73 application”) yw cais am ganiatâd cynllunio o dan adran 73 o Ddeddf 1990 ar gyfer datblygu tir heb gydymffurfio ag amodau y rhoddwyd caniatâd blaenorol yn ddarostyngedig iddynt”;

“ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015([7])”;

“ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir drosti gynghorydd i awdurdod lleol”;

“ystyr “ymgynghorai arbenigol” (“specialist consultee”), pan fo’r datblygiad y mae’r cais arfaethedig am ganiatâd cynllunio yn ymwneud ag ef yn dod o fewn categori a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4, yw’r awdurdod, y person neu’r corff a grybwyllir mewn perthynas â’r categori hwnnw;;

ystyr “ymgynghorai cymunedol” (“community consultee”) yw—

(a)   pob cynghorydd cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy’n cynrychioli ward etholiadol y lleolir ynddi dir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef; a

(b)  pob cyngor cymuned y lleolir yn ei ardal dir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef;.

Diwygiadau mewn perthynas ag ymgynghori cyn ymgeisio

4.(1)(1) Ar ôl Rhan 1 mewnosoder—

RHAN 1A

Ymgynghoriad cyn-ymgeisio

Gofyniad i gynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio

2B.—(1) Mae datblygiad mawr wedi ei bennu at ddibenion adran 61Z(1) o Ddeddf 1990 (Cymru: gofyniad i gynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio).

(2) Mae ceisiadau adran 73 arfaethedig a cheisiadau sydd i’w gwneud o gan adran 73A o Ddeddf 1990 (Caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad a gyflawnwyd eisoes)([8]) wedi eu pennu at ddibenion adran 61Z(7)(b) o Ddeddf 1990.

Cyhoeddusrwydd cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio

2C.—(1) Rhaid i’r ceisydd([9]) hysbysebu’r cais arfaethedig drwy—

(a)   rhoi hysbysiad gofynnol—

                       (i)  drwy ei arddangos ar y safle mewn o leiaf un man, ar neu gerllaw’r tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef, am o leiaf 28 diwrnod; a

                      (ii)  mewn ysgrifen i unrhyw berchennog neu feddiannydd unrhyw dir cyffiniol y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef; a

(b)  rhoi’r wybodaeth ganlynol ar gael i’w harchwilio mewn lleoliad yng nghyffiniau’r datblygiad arfaethedig, am gyfnod o ddim llai nag 28 diwrnod, sy’n dechrau gyda phob diwrnod y rhoddir pob un o’r hysbysiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu erthygl 2D(2)—

                       (i)  unrhyw ddogfennau a manylion neu dystiolaeth a fyddai’n ofynnol er mwyn i gais dilynol, yn yr un ffurf neu’r un ffurf o ran sylwedd, fod yn gais dilys, ac eithrio’r tystysgrifau mewn perthynas â hysbysiadau o geisiadau am ganiatâd cynllunio sy’n ofynnol gan erthygl 11;

                      (ii)  plan sy’n galluogi adnabod y tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef;

                     (iii)  unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth arall sy’n angenrheidiol er mwyn disgrifio’r datblygiad sy’n destun y cais arfaethedig;

                     (iv)  mewn achos y mae erthygl 7 yn gymwys iddo, y datganiad dylunio a mynediad; a

                      (v)  yn ddarostyngedig i erthygl 8(2), y manylion neu’r dystiolaeth sy’n ofynnol gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan adran 62(3) o Ddeddf 1990([10]).

(2) Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae paragraff (1)(b)(ii) neu (iii) yn gwneud yn ofynnol eu darparu fod wedi eu lluniadu ar raddfa a nodir gan y ceisydd, ac yn achos planiau rhaid dangos cyfeiriad y gogledd.

(3) Rhaid i’r ceisydd fod wedi cydymffurfio â pharagraff (1) cyn cyflwyno cais.

(4) Os yw’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a)(i), heb unrhyw fwriad gan y ceisydd na bai arno, yn cael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn bo’r cyfnod o 28 diwrnod wedi dod i ben, trinnir y ceisydd fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff perthnasol os yw’r ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac, os oes angen, ei amnewid.

(5) Yn yr erthygl hon, ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw hysbysiad yn y ffurf a bennir yn Atodlen 1B neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith.

Ymgynghori cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio

2D.—(1) Mae’r personau neu ddisgrifiadau o bersonau canlynol wedi eu pennu at ddibenion adran 61Z(4) o Ddeddf 1990—

(a)   unrhyw ymgynghorai cymunedol;

(b)  unrhyw ymgynghorai arbenigol.

(2) Pan yw’n ofynnol bod ceisydd yn ymgynghori ag ymgynghorai cymunedol, rhaid i’r ceisydd roi i’r ymgynghorai cymunedol hysbysiad gofynnol ysgrifenedig o’r cais arfaethedig.

(3) Pan yw’n ofynnol bod ceisydd yn ymgynghori ag ymgynghorai arbenigol, rhaid i’r ceisydd roi i’r ymgynghorai arbenigol hysbysiad gofynnol ysgrifenedig o’r cais arfaethedig ac amgáu pob un o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn erthygl 2C(1)(b) neu ddarparu dolen i wefan lle y gellir gweld y dogfennau hynny.

(4) Rhaid i’r ceisydd fod wedi cydymffurfio â pharagraffau (2) a (3) ac wedi rhoi cyfle i’r ymgynghorai arbenigol ymateb yn unol ag erthygl 2E(1) cyn cyflwyno cais.

(5) Yn yr erthygl hon, ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw—

(a)   mewn perthynas ag ymgynghorai cymunedol neu berson perthnasol, hysbysiad yn y ffurf briodol a nodir yn Atodlen 1B; a

(b)  mewn perthynas ag ymgynghorai arbenigol, hysbysiad yn y ffurf briodol a bennir yn Atodlen 1C,

neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith.

Dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad cyn-ymgeisio: ymgyngoreion arbenigol

2E.—(1) Rhaid i ymgynghorai arbenigol, yr ymgynghorwyd ag ef yn unol â darpariaethau adran 61Z(4) o Ddeddf 1990, ddarparu ymateb o sylwedd o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad y cyfeirir ato yn erthygl 2D(3) neu pa bynnag gyfnod arall a gytunir mewn ysgrifen rhwng yr ymgynghorai arbenigol a’r ceisydd.

(2) At ddibenion yr erthygl hon, ymateb o sylwedd yw ymateb sydd yn—

(a)   datgan nad oes gan yr ymgynghorai arbenigol unrhyw sylw i’w wneud;

(b)  datgan nad oes gan yr ymgynghorai arbenigol wrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig ac yn cyfeirio’r ceisydd at y cyngor sefydlog cyfredol gan yr ymgynghorai arbenigol ar destun yr ymgynghoriad;

(c)   rhoi gwybod i’r ceisydd am unrhyw bryderon a ganfuwyd ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig a sut y gellir mynd i’r afael â’r pryderon hynny; neu

(ch) rhoi gwybod i’r ceisydd fod gan yr ymgynghorai arbenigol bryderon ac y byddai’n gwrthwynebu cais am ganiatâd cynllunio a wneid ar yr un telerau neu delerau o’r un sylwedd, ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiadau hynny.

Adroddiadau ar ymgynghoriad cyn-ymgeisio

2F.—(1) Pan fu’n ofynnol bod ceisydd yn cynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio yn unol â darpariaethau adran 61Z o Ddeddf 1990 ac erthyglau 2C a 2D, ac yntau wedyn yn cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio, rhaid cyflwyno’r cais ynghyd ag adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio, sy’n rhoi manylion o’r canlynol—

(a)   sut y cydymffurfiodd y ceisydd ag adran 61Z o Ddeddf 1990;

(b)  unrhyw ymateb i’r ymgynghoriad a gafwyd gan bersonau yr ymgynghorwyd â hwy o dan adran 61Z(3) neu (4) o Ddeddf 1990; ac

(c)   yr ystyriaeth a roddwyd i’r ymatebion hynny.

(2) Rhaid i’r adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio gynnwys —

(a)   copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato yn erthygl 2C(1)(a)(i);

(b)  datganiad i’r perwyl bod yr hysbysiad y cyfeirir ato yn erthygl 2C(1)(a)(i) wedi ei arddangos yn unol â gofynion yr erthygl honno;

(c)   rhestr o gyfeiriadau’r personau y rhoddwyd hysbysiad o’r cais arfaethedig iddynt yn unol ag erthygl 2C(1)(a)(ii) a chopi o’r hysbysiad a roddwyd i bersonau o’r fath;

(ch) copïau o’r holl hysbysiadau a roddwyd i ymgyngoreion cymunedol ac arbenigol yn unol ag erthyglau 2D(2) a 2D(3);

(d)  crynodeb o’r holl faterion a godwyd gan unrhyw berson a hysbyswyd ynghylch y cais arfaethedig yn unol ag adran 61Z(3) o Ddeddf 1990 ac erthyglau 2C a 2D(2), gan gynnwys cadarnhad a aethpwyd i’r afael â’r materion a godwyd ai peidio, ac os felly, sut; ac

(dd) copïau o’r holl ymatebion a gafwyd gan ymgyngoreion arbenigol, ynghyd ag eglurhad o’r ystyriaeth a roddwyd i bob ymateb.

(2) Yn erthygl 8 ar ôl paragraff (1)(b) mewnosoder—

(ba) mewn achos y mae erthygl 2F yn gymwys iddo, yr adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio sy’n ofynnol gan yr erthygl honno;

(3) Yn erthygl 22 ar ôl paragraff (3)(b) mewnosoder—

(ba)  mewn achos y mae erthygl 2F yn gymwys iddo, yr adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio sy’n ofynnol gan yr erthygl honno;

(4) Ar ôl Atodlen 1 mewnosoder yr Atodlenni 1B a 1C sy’n gynwysedig yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwn.

Diwygiadau mewn perthynas ag ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd

5.(1)(1) Yn erthygl 14(2) yn lle “(s)” rhodder “(rh)”.

(2) Yn erthygl 15(3) yn lle “(s)” rhodder “(rh)”.

(3) Yn lle Atodlen 4 rhodder yr Atodlen 4 fel y’i nodir yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn.

Diwygiadau mewn perthynas â dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad

6. Yn erthygl 15A([11])—

(a)     yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) At ddibenion yr erthygl hon ac yn unol ag adran 54(5)(c) o Ddeddf 2004, ymateb o sylwedd yw ymateb sydd—

(a)   pan na chynhaliwyd ymgynghoriad at ddibenion adran 61Z o Ddeddf 1990 (Cymru: gofyniad i gynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio), neu pan fo’r ymgynghorai wedi methu â rhoi ymateb yn unol ag erthygl 2E—

                       (i)  yn datgan nad oes gan yr ymgynghorai unrhyw sylw i’w wneud;

                      (ii)  yn datgan nad oes gan yr ymgynghorai wrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig ac yn cyfeirio’r person sy’n ymgynghori at y cyngor sefydlog cyfredol gan yr ymgynghorai ar destun yr ymgynghoriad;

                     (iii)  yn rhoi gwybod i’r person sy’n ymgynghori am unrhyw bryderon a ganfuwyd mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig a sut y gall y ceisydd fynd i’r afael â’r pryderon hynny; neu

                     (iv)  yn rhoi gwybod bod yr ymgynghorai yn gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiad; a

(b)  pan fo ymgynghoriad wedi ei gynnal at ddibenion adran 61Z o Ddeddf 1990, a’r ymgynghorai wedi rhoi ymateb yn unol ag erthygl 2E—

                       (i)  yn datgan nad oes gan yr ymgynghorai sylw pellach i’w wneud mewn cysylltiad â’r datblygiad arfaethedig ac yn cadarnhau bod unrhyw sylwadau a wnaed o dan erthygl 2E yn parhau’n berthnasol;

                      (ii)  yn rhoi gwybod i’r person sy’n ymgynghori am unrhyw bryderon newydd a ganfuwyd mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig, pam nad oedd y pryderon hynny wedi eu nodi yn yr ymateb yn unol ag erthygl 2E ac—

(aa)    sut y gall y ceisydd fynd i’r afael â’r pryderon; neu

(bb)    bod yr ymgynghorai yn gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig, ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiad.

(b)     ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Yn yr erthygl hon ac erthygl 15B, mae cyfeiriadau at ymgynghorai yn cynnwys cyfeiriad at ymgynghorai arbenigol pan fo ymgynghoriad at ddibenion adran 61Z o Ddeddf 1990 wedi ei gynnal.

Diwygiadau mewn perthynas â dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad: adroddiadau blynyddol

7. Yn erthygl 15B([12])—

(a)     ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

(1A)  Rhaid i bob ymgynghorai sydd o dan ddyletswydd yn rhinwedd erthygl 2E i ymateb i ymgynghoriad cyn-ymgeisio, gynnwys yn yr adroddiad a roddir i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (1), adroddiad ar gydymffurfiaeth yr ymgynghorai â’r erthygl honno.;

(b)     ym mharagraff (3)(ch) ar ôl “at ddibenion adran 54(4) o Ddeddf 2004” mewnosoder “neu, yn ôl fel y digwydd, y cyfnod a bennir neu y cyfeirir ato yn erthygl 2E(1)”;

(c)     ar ôl paragraff 3(ch) mewnosoder—

(4) Yn yr erthygl hon ystyr “ymateb o sylwedd” yw naill ai ymateb o sylwedd i’r ceisydd neu i’r awdurdod cynllunio lleol yn unol ag erthyglau 2E neu 15A.

Diwygiadau mewn perthynas ag ymgynghori ynghylch ceisiadau penodol

8. Ar ôl erthygl 15B, mewnosoder—

Ymgynghori mewn cysylltiad â cheisiadau penodol yn ymwneud â chaniatâd cynllunio: cyfnodau amser

15C. Y cyfnod a bennir at ddibenion adran 100A(3)(a) o Ddeddf 1990 yw’r cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae’r ymgynghorai yn cael—

(a)   y ddogfen y gofynnir am farn yr ymgyngoreion arni; neu

(b)  pan fo mwy nag un o ddogfennau, a anfonir ar wahanol ddiwrnodau, yr olaf o’r dogfennau hynny.

Gwybodaeth sydd i’w darparu gan awdurdod cynllunio lleol

15D. Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol ddarparu’r wybodaeth ganlynol i ymgynghorai statudol at ddibenion yr ymgynghoriad neu mewn cysylltiad â’r ymgynghoriad—

(a)   copi o’r ffurflen gais sy’n ymwneud â chais perthnasol([13]);

(b)  y rhif cyfeirnod a ddyrannwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol i’r cais gwreiddiol([14]);

(c)   unrhyw luniadau sy’n gysylltiedig â’r cais perthnasol; ac

(ch) unrhyw adroddiad mewn cysylltiad â’r cais perthnasol a ddyroddwyd i’r awdurdod cynllunio lleol.

Ymateb o sylwedd i ymgynghoriad

15E. Ymateb o sylwedd at ddibenion adran 100A(2) o Ddeddf 1990 yw ymateb sydd yn—

(a)   datgan nad oes gan yr ymgynghorai unrhyw sylw i’w wneud;

(b)  datgan nad oes gan yr ymgynghorai wrthwynebiad i’r materion sy’n destun yr ymgynghoriad, ac yn cyfeirio’r person sy’n ymgynghori at y cyngor sefydlog cyfredol gan yr ymgynghorai ar destun yr ymgynghoriad;

(c)   rhoi gwybod i’r person sy’n ymgynghori am unrhyw bryderon a ganfuwyd ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig materion sy’n destun yr ymgynghoriad a sut y gall y ceisydd fynd i’r afael â’r pryderon hynny; neu

(ch) rhoi gwybod bod yr ymgynghorai yn gwrthwynebu’r materion sy’n destun yr ymgynghoriad ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiad.

Adroddiadau blynyddol – cydymffurfiaeth â gofynion ymgynghori

15F.—(1) Rhaid i bob ymgynghorai statudol yr ymgynghorir ag ef ynghylch cais dilys roi i Weinidogion Cymru, ddim hwyrach nag 1 Gorffennaf ym mhob blwyddyn galendr, gan ddechrau ar 1 Gorffennaf 2017, adroddiad ar gydymffurfiaeth yr ymgynghorai hwnnw ag adrannau 100A(2) a (3) o Ddeddf 1990 ac erthygl 15C.

(2) Rhaid i’r adroddiad ymwneud â’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ebrill yn y flwyddyn galendr flaenorol (“y flwyddyn adroddiad”).

(3) Rhaid i’r adroddiad gynnwys, mewn cysylltiad â’r flwyddyn adroddiad o dan sylw, datganiad o’r canlynol—

(a)   nifer yr achlysuron pan ymgynghorwyd â’r ymgynghorai;

(b)  nifer yr achlysuron pan ddarparwyd ymateb o sylwedd;

(c)   nifer yr achlysuron pan roddwyd ymateb o sylwedd gan yr ymgynghorai y tu allan i’r cyfnod rhagnodedig at ddibenion 100A(3) o Ddeddf 1990 a chrynodeb o’r rhesymau am hynny.

Diwygiadau mewn perthynas â datganiadau dylunio a mynediad

9.(1)(1) Yn lle erthygl 7 rhodder—

7.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae paragraff (3) yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio—

(a)   ar gyfer datblygiad mawr;

(b)  pan fo unrhyw ran o’r datblygiad mewn ardal ddynodedig, ar gyfer datblygiad a gyfansoddir o—

                       (i)  darparu un neu ragor o dai annedd; neu

                      (ii)  darparu adeilad neu adeiladau lle mae’r arwynebedd llawr a grëir gan y datblygiad yn 100 metr sgwâr neu ragor.

(2) Nid yw paragraff (3) yn gymwys i—

(a)   cais adran 73;

(b)  cais am ganiatâd cynllunio—

                       (i)  ar gyfer gweithrediadau mwyngloddio;

                      (ii)  ar gyfer newid sylweddol yn y defnydd o dir neu adeiladau; neu

                     (iii)  ar gyfer datblygiad gwastraff.

(3) Rhaid i gais am ganiatâd cynllunio y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo gael ei gyflwyno ynghyd â datganiad (“datganiad dylunio a mynediad”) sy’n cydymffurfio â pharagraff (4).

(4) Rhaid i ddatganiad dylunio a mynediad—

(a)   esbonio’r egwyddorion a chysyniadau dylunio a gymhwyswyd i’r datblygiad;

(b)  dangos pa gamau a gymerwyd i arfarnu cyd-destun y datblygiad a’r modd y mae dyluniad y datblygiad yn cymryd i ystyriaeth y cyd-destun hwnnw;

(c)   esbonio’r polisi neu’r dull a fabwysiadwyd o ran mynediad, a’r modd y mae’r polisïau ynglŷn â mynediad yn y cynllun datblygu wedi eu cymryd i ystyriaeth; ac

(ch) esbonio sut y rhoddwyd sylw i faterion penodol allai effeithio ar y datblygiad.

(5) Ym mharagraff (1) ystyr “ardal ddynodedig” (“designated area”) yw—

(a)   ardal gadwraeth([15]); neu

(b)  eiddo sy’n ymddangos yn Rhestr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO ar Amddiffyn Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd 1972 (Safle Treftadaeth y Byd)([16]).

(2) Yn erthygl 8(1)(c) hepgorer “neu'r datganiad mynediad, yn ôl fel y digwydd”.

(3) Yn erthygl 22(3)(c) hepgorer “neu'r datganiad mynediad, yn ôl fel y digwydd”.

Diwygiadau mewn perthynas â cheisiadau adran 73

10.(1)(1) Yn erthygl 5(1)(c) yn lle “pan wneir y cais yn unol ag adran 73 (penderfynu ceisiadau i ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a atodwyd yn gynharach), neu” rhodder “yn achos cais adran 73 neu pan wneir y cais yn unol ag”.

(2) Yn erthygl 12—

(a)     ym mharagraff (4), ar ôl y geiriau “nad yw'n gais paragraff (2)” mewnosoder “nac yn gais sy’n dod o fewn paragraff (4A)”;

(b)     ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(4A) Yn achos cais adran 73 nad yw’n dod o fewn is-baragraff (2)(a) neu (c), rhaid hysbysebu’r cais drwy roi hysbysiad gofynnol—

(a)   drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, am o leiaf 21 diwrnod; a

(b)  ym mha bynnag fodd arall a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod cynllunio lleol.

(c)     ym mharagraff (5) yn lle “na pharagraff (4)” rhodder “, paragraff (4) na pharagraff (4A)”.

(d)     ym mharagraff (6) ar ôl “(4)(a)(i)” mewnosoder “, (4A)”.

(3) Yn erthygl 14(1) ar ôl paragraff (b) a chyn yr atalnod llawn mewnosoder—

, neu

(c)   mae erthygl 15ZA yn gymwys.

(4) Ar ôl erthygl 15 mewnosoder—

Ymgyngoriadau cyn caniatáu ceisiadau adran 73

15ZA.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â chais adran 73 ac eithrio cais adran 73 sydd yn gais AEA.

(2)  Cyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer gais y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo, caiff yr awdurdod cynllunio lleol ymgynghori ag awdurdodau neu bersonau sy’n dod o fewn categori a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4.

(3)  Pan fo awdurdod cynllunio lleol, yn rhinwedd neu o dan yr erthygl hon, yn ymgynghori ag unrhyw awdurdod neu berson (“yr ymgynghorai”) cyn rhoi caniatâd cynllunio—

(a)   rhaid iddo, oni fydd ceisydd wedi cyflwyno copi o gais am ganiatâd cynllunio i’r ymgynghorai, roi hysbysiad o’r cais i’r ymgynghorai; a

(b)  rhaid iddo beidio â phenderfynu’r cais tan o leiaf 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddwyd hysbysiad o dan is-baragraff (a) neu, os yw’n gynharach, 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd copi o’r cais i’r ymgynghorai gan y ceisydd.

(4)  Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol, wrth benderfynu’r cais, gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gaiff gan ymgynghorai.

(5) Yn erthygl 15A—

(a)     ym mharagraff (1) ar ôl “erthygl 14” mewnosoder “ac erthygl 15ZA”;

(b)     ym mharagraff (2)(a) yn lle “14(4)(a)” rhodder “erthygl 14(4)(a) neu 15ZA(3)(a)”.

(6) Yn lle erthygl 21(1)(b), rhodder—

 

(b) wedi ei gyflwyno neu’i chyflwyno neu wedi ei roi neu’i rhoi

                            (i) i berchennog y tir neu i denant o dan erthygl 10, neu

                            (ii) i berchennog neu feddiannydd cyffiniol o dan erthygl 12,

       o fewn cyfnod o 21 diwrnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad y cyflwynwyd neu y rhoddwyd yr hysbysiad i'r person hwnnw, ar yr amod y gwneir y sylwadau gan unrhyw berson y maent yn fodlon ei fod yn berchennog, yn denant neu’n feddiannydd o'r fath;neu

(7) Yn lle erthygl 22(6)(b) rhodder—

(b) wedi ei gyflwyno neu’i chyflwyno neu wedi ei roi neu’i rhoi

                       (i)  i berchennog y tir neu i denant o dan erthygl 10, neu

                      (ii)  i berchennog neu feddiannydd cyffiniol o dan erthygl 12,

cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad y cyflwynwyd neu y rhoddwyd yr hysbysiad i'r person hwnnw; neu

(8) Yn Atodlen 3 ar ôl “12(4)” mewnosoder “, 12(4A)”.

Diwygiadau mewn perthynas ag erthygl 22 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau): diwygiadau ar ôl cyflwyno

11. Yn erthygl 22 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau)—

(a)     ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

(1A)  Mae cyfeiriadau ym mharagraff (1) at gais dilys yn cynnwys cyfeiriadau at y cais hwnnw fel y’i diwygiwyd cyn i’r awdurdod cynllunio lleol benderfynu’r cais.

(b)     ar ôl is-baragraff (2)(a), mewnosoder—

(aa)  mewn achos y mae paragraff (1A) yn gymwys iddo, y cyfnod o—

                       (i)  4 wythnos sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd yr awdurdod y diwygiad i’r cais; neu

                      (ii)  12 wythnos sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd yr awdurdod y cais y mae’r diwygiad yn ymwneud ag ef

pa un bynnag yw’r diweddaraf;

(c)     yn is-baragraff (2)(c), yn lle “(a) neu (b)”, rhodder “ (a), (aa) neu (b).”

(d)     ar ôl paragraff (3), mewnosoder—

(3A) Rhaid cymryd bod diwygiad i gais dilys wedi ei gael pan fo’r diwygiad a’r cyfryw ddogfennau a gynhwysir yn y cais neu sy’n dod gyda’r cais, ac unrhyw ffi sy’n ofynnol, wedi eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol.

Diwygiadau mewn perthynas â hysbysiadau penderfynu, hysbysu ynghylch cychwyn datblygiad ac arddangos hysbysiad

12.(1)(1) Ar ôl erthygl 24, mewnosoder—

Hysbysiad diwygiedig o benderfyniad i roi caniatâd cynllunio

24A.—(1)  Mae ceiswyr wedi eu pennu at ddibenion adran 71ZA(5) o Ddeddf 1990.

(2) At ddibenion adran 71ZA(6), y manylion sydd i’w cynnwys yn y fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad o benderfyniad i roi caniatâd cynllunio yw—

(a)   y rhif cyfeirnod;

(b)  dyddiad ac effaith y penderfyniad;

(c)   enw’r corff a wnaeth y penderfyniad; ac

(ch) rhif y diwygiad.

Hysbysu ynghylch cychwyn datblygiad ac arddangos hysbysiad

24B.—(1) Mae caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad mawr wedi ei bennu at ddibenion adran 71ZB(6) o Ddeddf 1990.

(2) Rhaid i’r hysbysiad sydd i’w roi i awdurdod cynllunio lleol cyn cychwyn unrhyw ddatblygiad y mae caniatâd cynllunio perthnasol yn ymwneud ag ef, yn unol ag adran 71ZB(1) o Ddeddf 1990, fod yn y ffurf a bennir yn Atodlen 5A neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith.

(3) Rhaid i’r hysbysiad y mae’n ofynnol ei arddangos drwy gydol yr amser tra cyflawnir datblygiad y mae caniatâd cynllunio perthnasol yn ymwneud ag ef, yn unol ag adran 71ZB(2) o Ddeddf 1990 Act fod—

(a)   yn y ffurf a nodir yn Atodlen 5B neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith;

(b)  wedi ei osod yn gadarn yn ei le a’i arddangos mewn man amlwg yn neu gerllaw’r lle y cyflawnir y datblygiad;

(c)   yn ddarllenadwy ac yn weladwy yn rhwydd i aelodau’r cyhoedd, heb iddynt orfod mynd i mewn i’r safle; a

(ch) wedi ei argraffu ar ddeunydd gwydn.

(4) Pan fo’r hysbysiad, heb unrhyw fwriad na bai ar y person sy’n cyflawni’r datblygiad, wedi cael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno, trinnir y person fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion is-baragraffau (b) ac (c) o baragraff (3) os byddant wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad, ac, os oes angen, ei amnewid.

(2) Yn erthygl 26([17]) ar ôl paragraff (3)(b) mewnosoder— 

(c) pan fo’r paragraff hwn yn pennu’r caniatâd cynllunio a roddwyd, a fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad o’r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio wedi ei dyroddi gan yr awdurdod yn unol ag adran 71ZA(5) o Ddeddf 1990 ac erthygl 24A, rhaid ei ddarllen fel pe bai’n pennu’r fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad.

(3) Yn erthygl 29([18]) ar ôl paragraff 3(c) mewnosoder—

(ca)  fersiwn ddiwygiedig y penderfyniad, os oes un, a ddyroddwyd gan yr awdurdod yn unol ag adran 71ZA(5) o Ddeddf 1990 ac erthygl 24A;

(4) Ar ôl Atodlen 5 mewnosoder Atodlenni 5A a 5B fel y’u nodir yn Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwn.

Diwygiadau mewn perthynas â dilysu

13.(1)(1) Yn erthygl 8—

(a)     ym mharagraff (1) yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a) cais sy'n cydymffurfio â gofynion erthygl 5;

(b)     yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn nad yw unrhyw ffi, y mae’n ofynnol ei thalu mewn perthynas â’r cais, wedi ei thalu (ac eithrio pan fo siec wedi ei dychwelyd a pharagraffau (2)(c) a (3)(e) o erthygl 22 yn gymwys) rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad hysbysu’r ceisydd o swm y ffi y mae’n ofynnol ei thalu a sut y gellir ei thalu.

(c)     ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3) Os yw’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn bod adran 62ZA(2) o Ddeddf 1990 yn gymwys i’r cais, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad a roddir yn unol ag adran 62ZA(2) o Ddeddf 1990 hysbysu’r ceisydd ynghylch—  

(a)   yr hawl i apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990, a

(b)   y terfyn amser yn erthygl 24C(2) ar y cyfnod a ganiateir i’r ceisydd ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl.

(2) Yn erthygl 22 ym mharagraff (3) yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a) cais sy'n cydymffurfio â gofynion erthygl 5;

(3) Yn erthygl 23—

(a)     yn lle “Pan fo cais” rhodder “Pan fo cais dilys”;

(b)     hepgorer “am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl neu gais”;

(c)     mae’r ddarpariaeth yn erthygl 23 fel y’i diwygiwyd gan is-baragraffau (a) a (b) yn dod yn baragraff (1) o’r erthygl; a

(d)     ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—

(2) At y diben o gyfrifo’r cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) pan fo unrhyw ffi sy’n ofynnol mewn cysylltiad â chais wedi ei thalu â siec a’r siec wedi ei dychwelyd yn ddiweddarach, rhaid diystyru’r cyfnod rhwng y dyddiad yr anfonodd yr awdurdod cynllunio lleol hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd bod y siec wedi ei dychwelyd a’r dyddiad y bodlonir yr awdurdod ei fod wedi cael swm llawn y ffi.

(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “cais dilys” (“valid application”) yw cais a gyfansoddir o’r canlynol—

(a)   cais sy’n cynnwys yr wybodaeth, ac a gyflwynir ynghyd â’r dogfennau a’r deunyddiau eraill sy’n ofynnol, ar gyfer cydymffurfio â thelerau’r caniatâd cynllunio o dan sylw;

(b)  cais sy’n cydymffurfio â gofynion erthygl 4 pan fo’n gymwys; ac

(c)   unrhyw ffi y mae’n ofynnol ei thalu mewn cysylltiad â’r cais, ac at y diben hwn ystyrir bod cyflwyno siec am swm y ffi yn daliad,

a rhaid ystyried bod cais dilys wedi ei gael pan fo’r cais a’r cyfryw wybodaeth, dogfennau neu ddeunyddiau eraill y cyfeirir atynt uchod fel rhai y mae’n ofynnol eu cynnwys yn y cais neu ynghyd â’r cais, ac unrhyw ffi sy’n ofynnol, wedi eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol.

(4) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn nad yw ffi y mae’n ofynnol ei thalu mewn perthynas â’r cais wedi ei thalu (ac eithrio pan fo siec wedi ei dychwelyd a pharagraffau (2) a (3)(c) yn gymwys) rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad hysbysu’r ceisydd o swm y ffi y mae’n ofynnol ei thalu a sut y gellir ei thalu.

(5) Os yw’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn bod adran 62ZA(4) o Ddeddf 1990 yn gymwys i’r cais, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad a roddir yn unol ag adran 62ZA(4) o Ddeddf 1990 hysbysu’r ceisydd ynghylch—

(a)   yr hawl i apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990, a

(b)  y terfyn amser yn erthygl 24C(2) ar y cyfnod a ganiateir i’r ceisydd ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl.

(4) Yn Rhan 5, o flaen erthygl 25, mewnosoder—

Apelau yn erbyn hysbysiad o farnu’n annilys

24C.—(1) Rhaid i geisydd sy'n dymuno apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990 roi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru drwy—

(a)   cyflwyno i Weinidogion Cymru, o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (2), ffurflen a gafwyd gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys y dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3); a

(b)  cyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol gopi o'r ffurflen a’r dogfennau a gyflwynir i Weinidogion Cymru.

(2) Y terfyn amser a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) yw dwy wythnos ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad yn unol ag erthygl 8(3A) neu 23(5) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys neu pa bynnag gyfnod hwy y caiff Gweinidogion Cymru ei ganiatáu ar unrhyw adeg.

(3) At ddibenion paragraff (1)(a) y dogfennau yw—

(a)   yn achos cais am ganiatâd cynllunio—

                       (i)  copi o’r hysbysiad a gyflwynwyd yn unol ag erthygl 8(3A) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys;

                      (ii)  copi o’r cais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol ac a ysgogodd yr apêl; a

                     (iii)  copi o’r ffurflenni, dogfennau, planiau, dyluniadau, datganiadau, addefiadau, tystysgrifau, manylion neu dystiolaeth a grybwyllir yn erthyglau 5 ac 8(1) a roddwyd i’r awdurdod mewn cysylltiad â’r cais cyn dyddiad yr hysbysiad a gyflwynwyd yn unol ag erthygl 8(3A) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys.

(b)  yn achos cais a wnaed o dan erthygl 23—

                       (i)  copi o’r hysbysiad a gyflwynwyd yn unol ag erthygl 23(5) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys;

                      (ii)  copi o’r cais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol ac a ysgogodd yr apêl;

                     (iii)  copi o’r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio, os oes un, y gwneir y cais yn unol ag ef; a

                     (iv)  copi o’r ffurflenni, dogfennau, planiau, dyluniadau, datganiadau, addefiadau, tystysgrifau, manylion neu dystiolaeth (gan gynnwys y cyfryw rai a grybwyllir yn erthygl 4(1) pan fo’n gymwys) a roddwyd i’r awdurdod mewn cysylltiad â’r cais cyn dyddiad yr hysbysiad a gyflwynwyd yn unol ag erthygl 23(5) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys.

(c)   Pan fo is-baragraff (b)(iii) yn gymwys a fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad o’r penderfyniad wedi ei ddyroddi gan yr awdurdod yn unol ag adran 71ZA(5) o Ddeddf 1990 ac erthygl 24A, rhaid darllen is-baragraff (b)(iii) fel pe bai’n cyfeirio at y fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad.

(4) Caiff Gweinidogion Cymru wrthod derbyn hysbysiad o apêl gan geisydd os na chyflwynir y ffurflen a’r dogfennau sy’n ofynnol o dan baragraff (1)(a) i Weinidogion Cymru o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (2).

(5) Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu, neu drefnu ar gyfer darparu, gwefan sydd i’w defnyddio at ddibenion o’r fath a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru, ac sydd—

(a)   yn ymwneud ag apelau o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990 a’r erthygl hon, a

(b)  yn ddibenion y gellir eu cyflawni yn electronig.

(6) Pan fo person yn defnyddio cyfathrebiadau electronig i roi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, mae darpariaethau erthygl 32 yn gymwys.

(5) Yn y pennawd i erthygl 25, ar ôl “Hysbysiad o apêl” mewnosoder “o dan adran 78 o Ddeddf 1990”.

(6) Yn y pennawd i erthygl 26, ar ôl “Apelau” mewnosoder “o dan adran 78 o Ddeddf 1990”.

(7) Yn y pennawd i erthygl 26A([19]), ar ôl “Apelau a wnaed” mewnosoder “o dan adran 78 o Ddeddf 1990”.

Diwygiadau mewn perthynas â gorchmynion datblygu lleol

14. Yn lle erthygl 27(13)(b), rhodder—

(b) “ar gyfer datblygiad sy’n ddatblygiad Atodlen 1 o fewn ystyr rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru) 2016.

Darpariaethau trosiannol

15.(1)(1) Nid yw’r darpariaethau yn erthygl 4 yn gymwys mewn cysylltiad â cheisiadau am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad mawr a wnaed cyn 1 Awst 2016.

(2) Nid yw’r darpariaethau yn erthygl 9 yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio a wnaed cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

(3) Nid yw’r darpariaethau yn erthygl 10 yn gymwys mewn perthynas â chais adran 73 a wnaed cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

(4) Nid yw’r darpariaethau yn erthygl 12(1) yn gymwys i ganiatâd cynllunio a roddwyd cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

(5) Nid yw’r darpariaethau yn erthygl 13(1) i (4) yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio, cydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth a wnaed cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

 

 

 

Carl Sargeant

Y Gweinidog Adnoddau Naturiol, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr 2016


ATODLEN 1                        Erthygl 4(4)

Hysbysiadau cyn-ymgeisio

ATODLEN 1B                     Erthyglau 2C a 2D

CYHOEDDUSRWYDD AC YMGYNGHORI CYN GWNEUD CAIS AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

 

CYHOEDDUSRWYDD AC YMGYNGHORI CYN GWNEUD CAIS AM GANIATÂD CYNLLUNIO

HYSBYSIAD O DAN ERTHYGLAU 2C A 2D

 

(i’w gyflwyno i berchnogion a/neu feddianwyr tir cyffiniol ac ymgyngoreion cymunedol; ac i’w arddangos drwy hysbysiad safle ar neu gerllaw lleoliad y datblygiad arfaethedig)

 

Diben yr hysbysiad hwn: mae’r hysbysiad hwn yn rhoi cyfle i wneud sylwadau yn uniongyrchol i’r datblygwr ynglŷn â datblygiad arfaethedig cyn cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio i’r awdurdod cynllunio lleol (“ACLl”). Bydd unrhyw gais cynllunio dilynol yn cael ei hysbysebu gan yr ACLl perthnasol; ni fydd unrhyw sylwadau a ddarperir gennych wrth ymateb i’r hysbysiad hwn yn lleihau dim ar eich gallu i gyflwyno sylwadau i’r ACLl ar unrhyw gais cynllunio cysylltiedig. Dylech nodi y gellir gosod unrhyw sylwadau a gyflwynir gennych yn y ffeil gyhoeddus.

 

Datblygiad Arfaethedig yn (a) ……………………………………………….

 

Rwyf yn hysbysu bod (b) ………………………………………………………….

 

yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio i (c): ………………………….

 

Gellwch archwilio copïau o’r canlynol:

 

-       y cais arfaethedig;

 

-       y planiau; a

 

-       dogfennau ategol eraill

 

ar-lein yn (d) …………………………………………………………………. ac mae cyfleusterau cyfrifiadur ar gael i archwilio’r wybodaeth hon ar lein yn (e)………………………………..

rhwng yr oriau (f)……………………………………………………………………..

 

(neu)

 

Gellwch weld yr wybodaeth hon yn (g)……………………. rhwng yr oriau (h)…………….

 

Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n dymuno gwneud sylwadau ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig hwn ysgrifennu at y ceisydd/yr asiant yn (i) neu (j)

 

erbyn (k) …………………………………………………

 

Llofnod: ………………………………………………

 

Dyddiad: …………………………………

 

Mewnosoder:

a)    cyfeiriad neu leoliad y datblygiad arfaethedig

b)    enw’r ceisydd

c)    disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig

d)    cyfeiriad y wefan

e)    mewnosoder cyfeiriad adeilad perthnasol

f)     mewnosoder oriau agor yr adeilad yn (e)

g)    mewnosoder cyfeiriad adeilad perthnasol

h)    mewnosoder oriau agor yr adeilad yn (g)

i)     cyfeiriad e-bost y ceisydd/asiant

j)     cyfeiriad y ceisydd

k)    dyddiad sy’n darparu cyfnod o 28 diwrnod, sy’n dechrau gyda’r dyddiad cyflwyno a chyhoeddi

 

 


 

ATODLEN 1C                         Erthygl 2D

YMGYNGHORI CYN GWNEUD CAIS AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

YMGYNGHORI CYN GWNEUD CAIS AM GANIATÂD CYNLLUNIO

HYSBYSIAD O DAN ERTHYGL 2D

(i’w gyflwyno i ymgyngoreion arbenigol, fel y’u diffinnir gan erthygl 2(1) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

Diben yr hysbysiad hwn: mae’r hysbysiad hwn yn ddeisyfiad ffurfiol am ymateb i ymgynghoriad cyn-ymgeisio o dan erthygl 2D o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012.

 

Datblygiad arfaethedig yn (a) ……………………………………………….

 

Rwyf yn hysbysu bod (b) ………………………………………………………….

 

yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio i (c): …………………………. ………………………….

 

Mae copi o’r cais arfaethedig; planiau; a dogfennau ategol eraill wedi eu hatodi/ar gael i’w harchwilio ar lein yn (d) ………………………………………………………………….

 

Yn unol â gofynion erthygl 2E o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012, rhaid anfon ymateb i’r ymgynghoriad at (e) erbyn (f). 

 

Llofnod: ………………………………………………

 

Dyddiad: …………………………………

 

Mewnosoder:

 

a) cyfeiriad neu leoliad y datblygiad arfaethedig

b) enw’r ceisydd

c) disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig

d) cyfeiriad y wefan

e) cyfeiriad e-bost y ceisydd/asiant

f) dyddiad sy’n darparu cyfnod o 28 diwrnod, sy’n dechrau gyda’r dyddiad cyflwyno a chyhoeddi

 

ATODLEN 2   Erthygl 5(3)

Ymgynghori cyn rhoi caniatâd

                                          ATODLEN 4                      Erthyglau 14 a 15

Ymgyngoriadau cyn Rhoi Caniatâd

 

TABL

 

 

 

 

Paragraff

Disgrifiad o’r Datblygiad

Ymgynghorai

 

 

 

 

 

 

 

(a)

Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar dir yn ardal awdurdod cynllunio lleol arall

Yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol

 

 

(b)

Datblygiad y gwnaed cais am ganiatâd cynllunio mewn perthynas ag ef i Weinidogion Cymru o dan adran 293A o Ddeddf 1990([20]) (datblygiad brys y Goron: gwneud cais), pan fo’r datblygiad hwnnw’n debygol o effeithio ar dir yn ardal cyngor cymuned

Y cyngor cymuned

 

 

(c)

Datblygiad o fewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch at ddibenion y ddarpariaeth hon oherwydd bod sylweddau gwenwynig, tra adweithiol, ffrwydrol neu fflamadwy yn bresennol yn y cyffiniau (ac eithrio ar safle niwclear perthnasol), a’r datblygiad yn cynnwys darparu—

(i) llety preswyl;

(ii) mwy na 250 metr sgwâr o arwynebedd llawr manwerthu;

(iii) mwy na 500 metr sgwâr o arwynebedd llawr swyddfa; neu
(iv) mwy na 750 metr sgwâr o arwynebedd llawr sydd i’w ddefnyddio ar gyfer proses ddiwydiannol,

neu rywfodd arall yn debygol o achosi cynnydd sylweddol yn nifer y personau sy’n gweithio o fewn yr ardal yr hysbyswyd yn ei chylch, neu sy’n ymweld â’r ardal honno.

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

 

 

(d)

Datblygiad o fewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch gan y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear at ddibenion y ddarpariaeth hon oherwydd bod sylweddau gwenwynig, tra adweithiol, ffrwydrol neu fflamadwy yn bresennol yn y cyffiniau ar safle niwclear perthnasol, a’r datblygiad yn cynnwys darparu—

(i) llety preswyl;

(ii) mwy na 250 metr sgwâr  o arwynebedd llawr manwerthu;

(iii) mwy na 500 metr sgwâr  o arwynebedd llawr swyddfa; neu
(iv) mwy na 750 metr sgwâr  o arwynebedd llawr sydd i’w ddefnyddio ar gyfer proses ddiwydiannol,

neu rywfodd arall yn debygol o achosi cynnydd sylweddol yn nifer y personau sy’n gweithio o fewn yr ardal yr hysbyswyd yn ei chylch, neu sy’n ymweld â’r ardal honno.

Y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear

 

 

(e)

Datblygiad sy’n debygol o achosi cynnydd sylweddol ym maint y traffig, neu newid sylweddol yng nghymeriad y traffig—

 

 

 

(i) sy’n ymuno neu’n ymadael â chefnffordd; neu

 Gweinidogion Cymru

 

 

 

(ii) yn defnyddio croesfan dros reilffordd

Gweithredwr y rhwydwaith sy’n cynnwys y rheilffordd o dan sylw, a Gweinidogion Cymru

 

 

(f)

Datblygiad sy’n debygol o achosi cynnydd sylweddol ym maint y traffig, neu newid sylweddol yng nghymeriad y traffig sy’n ymuno neu’n ymadael â ffordd ddosbarthiadol neu briffordd arfaethedig

Yr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol

 

 

(g)

Datblygiad sy’n debygol o amharu ar wella neu adeiladu ffordd ddosbarthiadol neu briffordd arfaethedig

Yr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol

 

 

(h)

Datblygiad sy’n ymwneud â—

 

 

 

(i) ffurfio, gosod neu addasu unrhyw fynedfa i briffordd (ac eithrio cefnffordd); neu

Yr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol

 

 

 

(ii) adeiladu priffordd neu fynedfa breifat i fangre, sy’n darparu mynediad i ffordd sydd â gorchymyn tollau mewn grym arni.

Yr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol, ac yn achos ffordd sy’n ddarostyngedig i gonsesiwn, y consesiynydd

 

 

(i)

Datblygiad sydd at y diben o osod neu adeiladu stryd newydd neu sy’n cynnwys gwaith o’r fath

Yr awdurdod priffyrdd lleol

 

 

(j)

Datblygiad, ac eithrio datblygiad gan ddeiliad tŷ, o fewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch gan yr Awdurdod Glo at ddiben y ddarpariaeth hon, oherwydd y risg o ansefydlogrwydd a achosir gan fwyngloddio.

Yr Awdurdod Glo

 

 

(k)

Datblygiad sy’n ymwneud â, neu’n cynnwys, gweithrediadau mwyngloddio

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

 

 

(l)

(i)         Datblygiad sy’n cael effaith ffisegol uniongyrchol ar heneb gofrestredig.

(ii)        Datblygiad sy’n debygol o fod yn weladwy o heneb gofrestredig ac sy’n bodloni un o’r criteria canlynol—

a)         bod o fewn pellter o 0.5 cilometr o unrhyw bwynt ar berimedr heneb gofrestredig;

b)         bod o fewn pellter o 1 cilometr o berimedr heneb gofrestredig ac yn 15 metr o uchder neu’n uwch, neu gydag arwynebedd o 0.2 hectar neu fwy;

c)         bod o fewn pellter o 2 cilometr o berimedr heneb gofrestredig ac yn 50 metr o uchder neu’n uwch, neu gydag arwynebedd o 0.5 hectar neu fwy;

d)         bod o fewn pellter o 3 cilometr o berimedr heneb gofrestredig ac yn 75 metr o uchder neu’n uwch, neu gydag arwynebedd o 1 hectar neu fwy; neu

e)         bod o fewn pellter o 5 cilometr o berimedr heneb gofrestredig ac yn 100 metr o uchder neu’n uwch, neu gydag arwynebedd o 1 hectar neu fwy.

(iii)       Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar barc hanesyddol cofrestredig neu ardd hanesyddol gofrestredig neu leoliad parc neu ardd o’r fath;

(iv)       Datblygiad o fewn tirwedd hanesyddol gofrestredig pan fo Asesiad Effaith Amgylcheddol yn ofynnol; neu

(v)        Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar werth cyffredinol eithriadol Safle Treftadaeth y Byd.

Gweinidogion Cymru

 

 

(m)

Datblygiad sy’n ymwneud â chyflawni gwaith neu weithrediadau ar wely neu ar lannau afon neu ffrwd

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

 

 

(n)

Datblygiad at y diben o buro neu storio olewau mwynol a’u deilliadau

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

 

 

(o)

Datblygiad sy’n ymwneud â chadw, trin neu waredu carthion, gwastraff masnachol, slyri neu slwtsh (ac eithrio gosod carthffosydd, adeiladu tai pwmpio mewn llinell o garthffosydd, adeiladu tanciau carthion neu garthbyllau sy’n gwasanaethu tai annedd sengl neu garafanau sengl neu adeiladau sengl lle na fydd mwy na deg o bobl fel arfer yn preswylio, gweithio neu ymgynnull, a gwaith sy’n ategol i hynny)

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

 

 

(p)

Datblygiad sy’n ymwneud â defnyddio tir fel mynwent

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

Yr ymgymerwr dŵr a charthffosiaeth perthnasol

 

 

(q)

Datblygiad sydd—
(i) mewn neu’n debygol o effeithio ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig; neu
(ii) mewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru ac sydd o fewn dau gilometr i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig y rhoddwyd hysbysiad ohoni, neu sy’n cael effaith fel pe bai hysbysiad ohoni wedi ei roi i’r awdurdod cynllunio lleol gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, yn unol ag adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) fel y’i cymhwysir yng Nghymru gan adran 27AA o’r Ddeddf honno ([21])

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

 

 

(r)

Datblygiad sy’n ymwneud ag—

(i)         unrhyw dir sydd â theatr arno;

(ii)        datblygiad preswyl (ac eithrio datblygiad gan ddeiliad tŷ) o fewn 50 metr i theatr (nad yw’n dod o fewn paragraff (i)); neu

(iii)       theatr arfaethedig.

Yr Ymddiriedolaeth Theatrau

 

 

(s)

Datblygiad nad yw at ddibenion amaethyddol, nad yw’n unol â darpariaethau cynllun datblygu, ac sy’n golygu—

(i) colli dim llai nag 20 hectar o dir amaethyddol graddau 1, 2 neu 3a a ddefnyddir ar y pryd (neu a ddefnyddiwyd ddiwethaf) at ddibenion amaethyddol; neu
(ii) colli llai nag 20 hectar o dir amaethyddol graddau 1, 2 neu 3a a ddefnyddir ar y pryd (neu a ddefnyddiwyd ddiwethaf) at ddibenion amaethyddol, mewn amgylchiadau pan fo’r datblygiad yn debygol o arwain at golled bellach o dir amaethyddol a fyddai’n peri bod y golled gronnus o dir amaethyddol yn 20 hectar neu’n fwy.

Gweinidogion Cymru

 

 

(t)

Datblygiad sydd o fewn 250 metr i dir—
(i) a ddefnyddir, neu sydd wedi ei ddefnyddio ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 30 mlynedd cyn y cais perthnasol, ar gyfer dyddodi sbwriel neu wastraff ; a
(ii) yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru yn ei gylch gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru at ddibenion y ddarpariaeth hon

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

 

 

(u)

Datblygiad—
(i) sy’n debygol o amharu ar ddefnyddio tir, neu arwain at golli’r defnydd o dir, a ddefnyddir fel maes chwarae; neu
(ii) sydd ar dir—

(aa) a ddefnyddiwyd fel maes chwarae ar unrhyw adeg yn ystod y 5 mlynedd cyn gwneud y cais perthnasol ac sy’n parhau heb ei ddatblygu; neu
(bb) a ddyrannwyd ar gyfer ei ddefnyddio fel maes chwarae mewn cynllun datblygu neu mewn cynigion ar gyfer cynllun o’r fath neu ar gyfer ei addasu neu ei amnewid; neu

(iii) sy’n golygu gosod arwyneb artiffisial, arwyneb o wneuthuriad dynol neu arwyneb cyfansawdd ar lain chwarae yn lle arwyneb o laswellt

Cyngor Chwaraeon Cymru([22])

 

 

(v)

Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar—
(i) unrhyw ddyfrffordd fewndirol (boed naturiol neu artiffisial) neu gronfa ddŵr sy’n eiddo i’r Canal and River Trust neu a reolir ganddi; neu
(ii) unrhyw sianel gyflenwi, cwrs dŵr, dihangfa dŵr neu gwlfert ar gyfer camlas, sydd o fewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch at ddibenion y ddarpariaeth hon gan y Canal and River Trust.

The Canal and River Trust

 

 

(w)

Datblygiad—

(i) sy’n ymwneud â lleoli sefydliadau newydd;

(ii) sydd at y diben o addasu sefydliadau presennol sydd o fewn cwmpas Erthygl 11 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU([23]); neu

(iii) sydd yn newydd, gan gynnwys llwybrau trafnidiaeth, lleoliadau a ddefnyddir gan y cyhoedd ac ardaloedd preswyl yng nghyffiniau sefydliadau presennol, lle y gallai lleoli neu ddatblygu achosi neu gynyddu’r risg o ddamwain fawr, neu ychwanegu at ganlyniadau damwain fawr.

Yr awdurdod cymwys rheoli peryglon damweiniau mawr, ac mewn perthynas â datblygiad sy’n dod o fewn paragraff (iii), unrhyw berson sydd â rheolaeth o’r tir y lleolir arno unrhyw sefydliad presennol o dan sylw, yn ôl y gofrestr a gedwir gan yr awdurdod sylweddau peryglus o dan reoliad 22 o Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015([24])

 

 

(x)

Datblygiad—

(i)         ar dir a ddynodwyd yn Barth Llifogydd C2;

(ii)        sy’n ymwneud â, neu sy’n cynnwys, datblygiad gwasanaethau brys neu ddatblygiad a all fod mewn perygl mawr, ar dir a ddynodwyd yn Barth Llifogydd C1 neu ar dir yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei gylch gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru at ddiben y ddarpariaeth hon.

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

 

 

(y)

Datblygiad—

(i) sy’n ymwneud â datblygiad preswyl newydd (gan gynnwys unedau sengl); a

(ii) sy’n ddatblygiad mawr nad yw’n dod o fewn paragraff (i).

 

Yr ymgymerwr dŵr a charthffosiaeth perthnasol

 

 

Dehongli’r Tabl

Yn y Tabl uchod—

(a)     ym mharagraffau (c)(iv) a (d)(iv), ystyr “proses ddiwydiannol” (“industrial process”) yw proses sydd ar gyfer neu sy’n ategu unrhyw un o’r dibenion canlynol—

                           (i)    gwneud unrhyw wrthrych neu ran o unrhyw wrthrych (gan gynnwys llong neu gwch, neu ffilm, fideo neu recordiad sain);

                         (ii)    newid, atgyweirio, cynnal, addurno, gorffen, glanhau, golchi, pacio, canio, addasu ar gyfer gwerthu, datgymalu neu ddymchwel unrhyw wrthrych; neu

                       (iii)    cael, naddu neu drin mwynau yng nghwrs unrhyw fasnach neu fusnes ac eithrio amaethyddiaeth, a chan eithrio proses a gyflawnir ar dir a ddefnyddir fel mwynglawdd, neu sy’n cydffinio ac yn cael ei feddiannu ar y cyd â mwynglawdd (ac yn yr is-baragraff hwn, ystyr “mwynglawdd” (“mine”) yw unrhyw safle y cyflawnir gweithrediadau mwyngloddio ynddo);

(b)     ym mharagraffau (c) a (d) ystyr “safle niwclear perthnasol” (“relevant nuclear site”) yw safle sydd yn —

                           (i)    safle niwclear Prydain Fawr (o fewn yr ystyr a roddir i “GB nuclear site” gan adran 68 o Ddeddf Ynni 2013) ([25]);


                         (ii)    safle amddiffyn awdurdodedig ( yn yr ystyr a roddir i “authorised defence site” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Iechyd a Diogelwch (Awdurdod Gorfodi)1998)([26]); neu

                       (iii)    safle niwclear newydd-adeiledig (yn yr ystyr a roddir i “new nuclear build site” gan reoliad 2A(1) o’r Rheoliadau hynny)([27]).

(c)     ym mharagraff (e), mae i “rhwydwaith” a “gweithredwr”, yn eu trefn, yr ystyron a roddir i “network” ac i “operator” yn adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993 (darparu gwasanaethau rheilffordd)([28]);

(d)     ym mharagraffau (f) ac (g), ystyr “ffordd ddosbarthiadol” (“classified road”) yw priffordd neu briffordd arfaethedig sydd—

                           (i)    yn ffordd ddosbarthiadol neu’n brif ffordd yn yr ystyron, yn eu trefn, o “classified road” neu “principal road” at ddibenion adran 12(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (darpariaeth gyffredinol o ran prif ffyrdd a ffyrdd dosbarthiadol)([29]); neu

                         (ii)    yn ddosbarthiadol at ddibenion unrhyw ddeddfiad gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 12(3) o’r Ddeddf honno;

(e)     ym mharagraff (h), mae i “consesiynydd”, “ffordd sy'n ddarostyngedig i gonsesiwn” a “gorchymyn tollau”, yn eu trefn, yr ystyron a roddir i “concessionaire”, “road subject to a concession” a “toll order” yn Rhan I o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (ffyrdd newydd yng Nghymru a Lloegr)([30]);

(f)      ym mharagraff (i), mae i “stryd” yr ystyr a roddir i “street” yn adran 48(1 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (strydoedd, gwaith stryd ac ymgymerwyr), ac mae “stryd newydd” (“new street”) yn cynnwys estyniad o stryd bresennol;

(g)     ym mharagraff (j), ystyr “datblygiad gan ddeiliad tŷ” (“householder development”) yw—

                           (i)    ehangu neu wella tŷ annedd neu ei addasu rywfodd arall, neu ddatblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd o’r fath, neu

                         (ii)    newid defnydd er mwyn ehangu cwrtil tŷ annedd,

at unrhyw ddiben sy’n ategol i fwynhad o’r tŷ annedd, ond nid yw’n cynnwys—

(aa)        unrhyw newid defnydd arall,

(bb)       codi tŷ annedd, neu

(cc)        newid nifer yr anheddau mewn adeilad;

(h)     ym mharagraff (l)—

                           (i)    mae i “heneb gofrestredig” yr ystyr a roddir i “scheduled monument” yn adran 1(11) o Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979 (rhestr o henebion)([31]);

                         (ii)    rhaid dehongli cyfeiriad at uchder datblygiad fel cyfeiriad at ei uchder a fesurir o lefel y ddaear; ac at ddibenion y paragraff hwn ystyr “lefel y ddaear” (“ground level”) yw lefel arwyneb y ddaear yn union gerllaw’r datblygiad o dan sylw neu, os nad yw lefel arwyneb y ddaear y lleolir y datblygiad arno, neu y bwriedir ei leoli arno, yn wastad, lefel y rhan uchaf o arwyneb y ddaear yn union gerllaw’r datblygiad;

                       (iii)    mae “parc hanesyddol cofrestredig neu ardd hanesyddol gofrestredig” (“registered historic park or garden”) a “tirwedd hanesyddol gofrestredig” (“registered historic landscape”) yn golygu bod y parc, yr ardd neu’r dirwedd yn gynwysedig yn y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru a gynhelir gan Weinidogion Cymru([32]);

                        (iv)    ystyr “Safle Treftadaeth y Byd” (“World Heritage Site”) yw tir sy’n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO ar Amddiffyn Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd, a fabwysiadwyd ym Mharis ar 16 Tachwedd 1972([33]);

(i)      ym mharagraff (o)—

                           (i)    ystyr “slyri” (“slurry”) yw carthion a throeth anifeiliaid (pa un a ychwanegwyd dŵr ai peidio ar gyfer ei drin), a

                         (ii)    mae i “carafán” yr ystyr a roddir i “caravan” gan adran 29(1) o Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960 (safleoedd carafanau)([34]);

(j)      ym mharagraff (q), ystyr “safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig” (“site of special scientific interest”) yw tir y mae adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) y gymwys iddo;

(k)     ym mharagraff (r), mae i “theatr” yr ystyr a roddir i “theatre” yn adran 5 o Ddeddf Ymddiriedolaeth Theatrau 1976 (dehongli)([35]) a mae i “datblygiad gan ddeiliad tŷ” (“householder development”) yr un ystyr ag ym mharagraff (j);

(l)      ym mharagraff (u)—

                           (i)    ystyr “maes chwarae” (“playing field”) yw’r cyfan o safle sy’n cynnwys o leiaf un llain chwarae;

                         (ii)    ystyr “llain chwarae” (“playing pitch”) yw arwynebedd wedi ei amlinellu yn benodol sydd, ynghyd ag unrhyw arwynebedd ymylol, yn 0.2 hectar neu’n fwy, ac a ddefnyddir ar gyfer pêl-droed y gymdeithas, pêl-droed Americanaidd, rygbi, criced, hoci, lacrós, rownderi, pêl fas, pêl feddal, pêl-droed Awstralaidd, pêl-droed Gwyddelig, bando, hyrli, polo neu polo beic;

(m)   ym mharagraff (w)—

                           (i)    mae i’r ymadroddion sy’n ymddangos yn y paragraff hwnnw ac y mae eu cyfystyron Saesneg yn ymddangos yng Nghyfarwyddeb 2012/18/EU yr un ystyron ag y sydd i’r cyfystyron Saesneg hynny yn y Gyfarwyddeb honno; a

                         (ii)    ystyr “awdurdod cymwys rheoli peryglon damweiniau mawr” (“control of major accident hazards competent authority”) yw—

(aa)        mewn perthynas â safle niwclear perthnasol, y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, yn gweithredu ar y cyd;

(bb)       fel arall, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, yn gweithredu ar y cyd; ac

(n)     ym mharagraff (x)—

ystyr “Parth Llifogydd C2” (“Flood Zone C2”) yw ardal o’r orlifdir sydd heb seilwaith arwyddocaol i’w amddiffyn rhag llifogydd;

ystyr “Parth Llifogydd C1” (“Flood Zone C1”) yw ardal o orlifdir sydd wedi ei datblygu ac a wasanaethir gan seilwaith arwyddocaol, gan gynnwys amddiffynfeydd rhag llifogydd;([36]) ac

mae i “datblygiad gwasanaethau brys” (“emergency services development”) a “datblygiad a all fod mewn perygl mawr” (“highly vulnerable development”) yr un ystyron ag yng Nghyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysu) (Cymru) 2012([37])


ATODLEN 3    Erthygl 12

Hysbysiad ynghylch cychwyn datblygiad ac arddangos hysbysiad

                           ATODLEN 5A Erthygl 24B(2)

 

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

 

HYSBYSIAD O DAN ERTHYGL 24B(2) SYDD I’W ROI I AWDURDOD CYNLLUNIO LLEOL I ROI GWYBOD IDDO PA BRYD Y BYDD DATBLYGIAD YN CYCHWYN

 

 

Datblygiad arfaethedig yn (a) …………………………………………………………….

 

Rwyf i, (b) …………………………o………………………………………….

 

drwy hyn yn hysbysu Awdurdod Cynllunio Lleol (c) ……………………………………………….

 

y bydd y datblygiad arfaethedig y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer o dan (d) …………………………

 

ar (e) ………………………………………………………………………………………….

 

yn cychwyn ar (f) …………………………………………………………………………

 

Disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig: (g)

 

…………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………

 

Rwyf yn cadarnhau mai myfi+ yw perchennog y tir y mae’r datblygiad arfaethedig yn ymwneud ag ef*

 

Rwyf yn cadarnhau nad myfi+ yw perchennog y tir y mae’r datblygiad arfaethedig yn ymwneud ag ef ac mai enw llawn a chyfeiriad y perchennog yw:*

 

(h) ………………………………………………………………………………………………

 

(i) ………………………………………………………………………………………………

 

Enw rheolwr y safle: (j)……………………………………………………………………….

 

Manylion cyswllt rheolwr y safle: (k)…………………………………………………….

 

                                                             ………………………………………………………….

 

                                                             ………………………………………………………….

 

                                                             ………………………………………………………….

Rwyf yn cadarnhau bod yr amodau cyn cychwyn canlynol wedi eu bodloni (l):

 

Cyfeirnod caniatâd……………….Rhif yr amod:…………Dyddiad y’i cytunwyd……….

 

Cyfeirnod caniatâd……………….Rhif yr amod:…………Dyddiad y’i cytunwyd……….

 

Cyfeirnod caniatâd……………….Rhif yr amod:…………Dyddiad y’i cytunwyd……….

 

Cyfeirnod caniatâd……………….Rhif yr amod:…………Dyddiad y’i cytunwyd……….

 

Cyfeirnod caniatâd……………….Rhif yr amod:…………Dyddiad y’i cytunwyd……….

 

Cyfeirnod caniatâd……………….Rhif yr amod:…………Dyddiad y’i cytunwyd……….

 

Cyfeirnod caniatâd……………….Rhif yr amod:…………Dyddiad y’i cytunwyd……….

 

Cyfeirnod caniatâd……………….Rhif yr amod:…………Dyddiad y’i cytunwyd……….

 

 

Os oes angen, parhewch ar ddalen ar wahân

 

 

Rwyf yn atodi plan sy’n dangos:

 

-       Llinell goch o amgylch ffin y tir sy’n cael budd o’r caniatâd

-       Y man lle’r arddangosir yr hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 71ZB(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

 

 

Cyn cychwyn unrhyw ddatblygiad mewn perthynas â chaniatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer datblygiad mawr, rhaid i berson roi hysbysiad i’r awdurdod cynllunio lleol ar y ffurflen hon.

 

Rhaid i berson sy’n cyflawni’r gwaith datblygu mewn perthynas â chaniatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer datblygiad mawr lenwi’r ffurflen sydd yn Atodlen 5B i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 ac arddangos y ffurflen honno ar neu gerllaw’r man y cyflawnir y datblygiad drwy gydol yr amser y gwneir y gwaith datblygu. Rhaid arddangos y ffurflen honno yn unol ag erthygl 24B(3) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012.

 

 

 

Llofnod …………………………………………………………..

 

Dyddiad……………………………………………………………….

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

+ sef y ceisydd a enwir yn (b)

* dileer fel sy’n briodol

 

Mewnosoder:

 

a) cyfeiriad neu leoliad y datblygiad arfaethedig

b) enw a chyfeiriad y ceisydd

c) enw’r Awdurdod Cynllunio Lleol

d) rhif cyfeirnod y cais cynllunio

e) dyddiad dyroddi’r hysbysiad penderfynu

f) dyddiad cychwyn y datblygiad

g) disgrifiad o’r datblygiad fel y’i cynhwysir yn yr hysbysiad penderfynu

h) enw llawn y perchennog (os yw’n gymwys)

i) cyfeiriad llawn y perchennog (os yw’n gymwys)

j) enw’r person a benodwyd neu sydd i’w benodi i oruchwylio cyflawni’r datblygiad ar y safle

k) manylion cyswllt ar gyfer y person (j) gan gynnwys, pan fo’n briodol, cyfeiriadau post ac e-bost busnes a rhif teleffon

l) yr amodau cyn cychwyn yw’r rhai y mae’n ofynnol cael eu manylion wedi eu cymeradwyo gan yr awdurdod cynllunio lleol cyn y caniateir i’r datblygiad gychwyn

 

 

 

 


 

ATODLEN 5B Erthygl 24B(3)

 

 

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

 

HYSBYSIAD O DAN ERTHYGL 24B(3) SYDD I’W ARDDANGOS DRWY GYDOL YR AMSER TRA CYFLAWNIR Y DATBLYGIAD

RHAN 1

Datblygiad yn (a)…….……………………………………………………………………………….

Hysbysir drwy hyn fod caniatâd cynllunio (b)……………………………………………………

wedi ei roi yn ddarostyngedig i amodau (c) i (d)………….…………………………………………………

ar (e)…….…………………………………………………………………………………………….

gan (f)…….…………………………………………………….ac mae’r datblygu bellach wedi cychwyn.

Mae’r datblygiad yn cynnwys (g)…….……………………………………………………………………. a dangosir ef fel yr ardal sydd wedi ei hamlinellu/lliwio ar y plan a atodir. Mae’r plan wedi ei luniadu yn unol â’r raddfa a nodir arno, yn dangos cyfeiriad y gogledd ac mae’n ffurfio, ac yn cael ei arddangos fel, RHAN 2 o’r hysbysiad hwn.

Gellir cael gwybodaeth bellach am y caniatâd cynllunio, gan gynnwys yr amodau, os oes rhai, y rhoddwyd y caniatâd yn ddarostyngedig iddynt, yn ystod unrhyw oriau rhesymol yn (h)…….……………………

Rhaid i berson sy’n cyflawni datblygu mewn perthynas â chaniatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer datblygiad mawr arddangos y ffurflen hon yn y man y cyflawnir y datblygu neu gerllaw iddo, drwy gydol yr amser y gwneir y gwaith datblygu. Rhaid arddangos y ffurflen yn unol ag erthygl 24B(3) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012.

Cyn cychwyn datblygiad mewn perthynas â chaniatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer datblygiad mawr, rhaid i berson roi hysbysiad i’r awdurdod cynllunio lleol ar y ffurflen yn Atodlen 5A i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012.

 

 

Nodiadau

a) Mewnosoder cyfeiriad neu ddisgrifiad o leoliad y datblygiad.

b) Mewnosoder rhif cyfeirnod y cais cynllunio perthnasol.

c) Dileer “yn ddarostyngedig i amodau” os nad yw’r caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i unrhyw amodau.

d) Mewnosoder enw a chyfeiriad y datblygwr.

e) Mewnosoder y dyddiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio.

f) Mewnosoder yr awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru.

g) Mewnosoder disgrifiad o’r datblygiad.

h) Mewnosoder cyfeiriad yr awdurdod cynllunio.

 



([1])   1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 61Z gan adran 17 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4). Mewnosodwyd adrannau 62ZA a 62ZB gan adran 29 o’r Ddeddf honno. Mewnosodwyd adran 71ZA gan adran 33 o’r Ddeddf honno. Mewnosodwyd adran 71ZB gan adran 34 o’r Ddeddf honno. Mewnosodwyd adran 100A gan adran 37 o’r Ddeddf honno. Amnewidiwyd adran 333(4B) gan adran 55 o’r Ddeddf honno a pharagraff 6(3) o Atodlen 7 iddi.

([2])   Mewnosodwyd adran 61A gan adran 41(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) (“Deddf 2004”) a diwygiwyd hi gan adrannau 188 a 238 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29) ac Atodlen 13 iddi. Amnewidiwyd adran 62 gan adran 42 o Ddeddf 2004 a diwygiwyd hi gan adran 17 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Diwygiwyd adran 71 gan adran 16(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) a pharagraff 15 o Atodlen 7 iddi.

([3])   Trosglwyddwyd Swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi. Gweler hefyd adran 118(3) o Ddeddf 2004.

([4])   2004 p. 5.

([5])   Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

([6])   O.S. 2012/801 (Cy. 110).

([7])   2015 dccc 4.

([8])   Ychwanegwyd adran 73A gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu a pharagraff 16(1) o Atodlen 7 iddi.

([9])   Gweler adran 61Z(1)(a) o Ddeddf 1990 am y diffiniad o “applicant” (“ceisydd”).

([10]) Amnewidiwyd adran 62 gan adran 42(1) o Ddeddf 2004 a diwygiwyd hi gan adran 17 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Gwnaed diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

([11]) Mewnosodwyd erthygl 15A gan O.S.2015/1330 (Cy. 123).

([12]) Mewnosodwyd erthygl 15B gan O. S.2015/1330 (Cy. 123).

([13]) Diffinnir “relevant application” (“cais perthnasol”) yn adran 100A(1) o Ddeddf 1990.

([14]) Gweler adran 100A(7) o Ddeddf 1990 ynglŷn ag “original application” (“cais gwreiddiol”).

([15]) Diffinnir “conservation area” (“ardal gadwraeth”) yn adran 91 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 p. 9) fel ardal ddynodedig o dan adran 69 o’r Ddeddf honno.

([16]) Gweler http:/whc.unesco.org/en/list

([17]) Diwygiwyd gan O.S. 2015/1330 (Cy. 123).

([18]) Diwygiwyd gan O.S. 2014/1772 (Cy. 183) ac O.S. 2015/1330 (Cy. 123).

([19]) Mewnosodwyd gan O.S. 2015/1330 (Cy. 123).

([20]) Mewnosodwyd adran 293A gan adran 82(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5).

([21]) 1981 (p. 69); amnewidiwyd adran 28 gan adran 75(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p. 37) a pharagraff 1 o Atodlen 9 iddi. Mewnosodwyd adran 27AA gan adran 105 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p. 16) a pharagraff 78 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi, ac fe’i diwygiwyd gan erthygl 4(1) o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755 (Cy. 90)) a pharagraffau 169 a 172 o Ran 1 o Atodlen 2 iddo..

([22]) Adwaenir Cyngor Chwaraeon Cymru fel Chwaraeon Cymru.

([23]) O.J. L 197, 24.7.2012, t. 1.

([24]) O.S. 2015/1597 (Cy. 196).

([25]) 2013 p. 32.

([26]) O.S. 1998/494; Mewnosodwyd y diffiniad o “authorised defence site” gan erthygl 6(2) o Orchymyn Deddf Ynni 2013 (Swyddfa Rheoleiddio Niwclear) (Diwygiadau Canlyniadol, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2014 (O.S. 2014/469) a pharagraffau 70 a 72(a) o Atodlen 3 iddo).

([27]) Mewnosodwyd rheoliad 2A gan erthygl 6(2) o’r Gorchymyn hwnnw a pharagraffau 70 a 73 o Atodlen 3 iddo.

([28]) 1993 p. 43; Gwnaed diwygiadau i adran 83(1) nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

([29]) 1980 p. 66.

([30]) 1991 p. 22; gweler adran 26, y gwnaed diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

([31]) 1979 p. 46.

([32]) Gweler http://cadw.gov.wales/historicenvironment/protection/historiclandscapes/?lang=cy

([33]) Gweler http:/whc.unesco.org/en/list

([34]) 1960 p. 62. Gwnaed diwygiadau i adran 29(1) nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

([35]) 1976 p. 27.

([36]) Mae mapiau sy’n dangos parthau llifogydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar http://data.wales.gov.uk/apps/floodmapping/.

([37])         Cylchlythyr Llywodraeth Cymru 07/2012